P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan The Friends of Bridgend Youth Music

a chasglwyd 1,363 llofnod ar lein a 738 llofnod papur = cyfanswm 2,101 llofnod

Manylion:

 Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu addysg gerdd mewn ysgolion ac yn benodol i:

·         Adfer yr arfer o neilltuo a gwarchod cyllidebau canolog ar gyfer addysg offerynnol proffesiynol mewn ysgolion;

·         Gweithredu strategaeth genedlaethol i wrthdroi’r dirywiad yng ngwasanaeth Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru;

·         Cynnig hawl i blant a phobl ifanc Cymru i gael addysg sy’n datblygu eu personoliaethau, doniau a galluoedd unigryw yn llawn.